Guto Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:33, 20 Mehefin 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Guto Roberts (1925-1999) yn actor, bardd, awdur, dyn cyhoeddus, darlithydd, ffotograffydd ac arlunydd ac, yn anad dim, yn ymgyrchydd di-flino dros y Gymraeg a'r diwylliant Cymreig, yn frogarwr a gwladgarwr.

Ganed Guto (Griffith) Roberts ar 13 Mawrth 1925 yn Isallt Fawr, Cwm Pennant, yn ail fab i Jane a Morris Roberts. Roedd Isallt Fawr wedi bod yn gartref i deulu ei fam ers cenedlaethau a bu nifer ohonynt yn feddygon amlwg yn eu dydd. Ymhen pum mlynedd symudodd y teulu i bentref Rhos-lan, yn gyntaf i Fronolau Isaf ac yna i Muriau Mawr. Roedd yn fywyd caled i dyddynwyr yn ystod y 30au llwm a dwysawyd y sefyllfa gan salwch Morris Roberts y tad. Dioddefai o'r clefyd siwgr a bu farw ym 1938. Yn ystod y blynyddoedd ymdrechodd y fam yn lew dros ei meibion, Guto a'i frodyr, Wil a Morris. Bu Guto Roberts yn arbennig o agos at ei fam a chanodd englyn gwych o glod iddi:

  Er ei byw heb aur y byd - na'i chwennych,
       Ni chwynodd am ennyd;
     Hwyliodd trwy stormydd celyd
     Yn braf, canys uwch ei bryd. 

Aeth Guto i ddechrau i ysgol gynradd Llanystumdwy a oedd yn drwyadl Gymreig er ei bod yn gysylltiedig â'r elgwyd wladol. Profiad tra gwahanol iddi oedd mynd ymlaen wedyn i'r Ysgol Sir ym Mhorthmadog gyda'i haddysg drwyadl Seisnig. Gadawodd yr ysgol ym 1941 a bu'n gweithio mewn siopau groser ym Mhorthmadolg, Pwllheli a'r Ffôr. Daeth y siopwr medrus iawn ac yn y blynyddoedd hynny hefyd y dechreuodd ymddiddori o ddifri mewn llenyddiaeth, barddoniaeth a drama, a hynny dan arweiniad y Parch. J.T. Williams, gweinidog capel yr Annibynwyr yn Rhos-lan, a thrwy ymwneud hefyd â'r Aelwyd (nad oedd yn gysylltiedig â'r Urdd) yn Garndolbenmaen a mynychu dosbarthiadau'r WEA. Bu'r Aelwyd yn fagwrfa iddo fel dyn cyhoeddus ac actor a bu'n hynod weithgar gyda'i gweithgareddau amrywiol. Diwylliodd ei hun hefyd yn nosbarthiadau Meuryn ar y cynganeddion yn Llangybi ym 1955-6 a chyrsiau Cynan ar y ddrama yn Y Garn rhwng 1946 a 1950. Tystiodd Meuryn i'w ddawn fel englynwr a chynganeddwr llithrig.

Rhoddodd wasanaeth sylweddol i gapel Rhos-lan ar hyd y blynyddoedd gan weithredu fel ymddiriedolwr ac ysgrifennydd yr ymddiriedolwyr am gyfnod maith. Bu'r blynyddoedd rhwng 1989-1992 pan fu'n rhaid dod â'r achos i ben yn rhai arbennig o drafferthus a phryderus iddo.

Rhwng 1954-1967 bu'n gweithio i Hufenfa De Arfon fel trafeiliwr yn gwerthu Menyn Eifion ar hyd a lled siroedd Caernarfon, Môn a Meirionnydd. Trwy'r teithiau hyn daeth yn adnabod llu o bobl amrywiol. Yn nechrau'r 1960au y dechreuodd ddod i amlygrwydd fel actor a chynhyrchydd dramâu gyda Chymdeithas Ddrama Gymraeg Cricieth a'r Cylch, a Theatr y Gegin. Daeth yn llais cyfarwydd ar lwyfan ac ar y radio, gan ymddangos ar y teledu gyntaf ym 1965.

Yn y chwedegau hefyd dechreuodd ymddiddori mewn ffotograffiaeth a throdd yn ddiweddarach at gamera ffilm a fideo gan gofnodi ar ffilm lu o ddigwyddiadau pwysig, cymeriadau lleol a chenedlaethol a pherfformiadau o bob math. Golygodd y cyfan yn ofalus ac mae'r casgliad pwysig ar gael bellach yn Archif Ffilm Genedlaethol Cymru. Daeth yn arlunydd medrus hefyd gan ddilyn dosbarthiadau celf Elis Gwyn Jones ym Mhwllheli. Ymddangosodd ei waith mewn sawl arddangosfa.

Ddechrau 1968 aeth i weithio'n llawn-amser fel actor i'r BBC. Cafwyd portreadau cofiadwy ganddo, e.e. fel Sem Llwyd yn Enoc Huws, Robat Wynn yn Gwen Tomos a Gwydion yn Blodeuwedd, ond fe'i cofir yn bennaf fel Ephraim Hughes yn y gyfres gomedi "Fo a Fe". Roedd yn gyfrannwr cyson hefyd i'r rhaglen "Rhwng Gŵyl a Gwaith" ar y radio. Yn ystod y 70au a'r 80au daeth i amlygrwydd cynyddol fel darlithydd gan ymdrin yn arbennig â hanes a llên Eifionydd - arweiniodd hyn at y gyfrol gampus Eifionydd ym 1998. Pynciau eraill y bu'n darlithio arnynt oedd y bardd-bregethwr-arlunydd Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon; teulu ei hen gartref Isallt Fawr, a'r cerddor a'r botanegydd, J. Lloyd Williams a'i deulu. Gweithiodd yn ddygn hefyd dros bapur bro Eifionydd, Y Ffynnon, o'i sefydlu ym Mehefin 1976 gan gyfrannu llu o erthyglau iddo ar amrywiol destunau.