Cwmni Penmaenmawr ac Ithfaen Cymreig, Cyf.
Ffurfiwyd Cwmni Penmaenmawr ac Ithfaen Cymreig, Cyf. ym 1911 pan unwyd y tair chwarel ithfaen fwyaf yn Sir Gaernarfon, sef chwareli’r Graiglwyd a Phenmaen ar fynydd Penmaenmawr a Chwarel yr Eifl. Teulu Darbishire oedd prif symbylwyr yr uno o ddyddiad sefydlu’r cwmni hyd y 1950au. O dipyn i ben, ychwanegwyd nifer o chwareli llai at eiddo’r cwmni. Prif farchnad y cwmni oedd y diwydiant ffyrdd oherwydd y galw am gerrig mâl i wynebu’r ffyrdd tar macadam newydd. Ym 1921, unwyd y cwmni a chwmni asphalt i ffurfio is-gwmni, Cwmni Asphalt Penmaenmawr a Llyn Trinidad, ym 1921. Yn y 1930au, dechreuodd gynhyrchu cerrig artiffisial gyda choncrit. Daeth y cwmni annibynnol i ben ym 1963 pan aeth yn rhan o gwmni Cerrig Caerfaddon a Phortland. Aeth hwnnw’n rhan o gwmni Mineralau Kingston yn y 1980au, sydd bellach yn cael ei alw’n ARC neu Gorfforaeth Cerrig Ffordd Unedig.[1]
Mae cofnodion y Cwmni ar gadw yn Archifdy Caernarfon.
Cyfeiriadau
- ↑ Rhagair i gatalog cofnodion Penmaenmawr and Welsh Granite Co. Ltd. Records (Archifdy Gwynedd)