Chwarel Tan-y-graig

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:15, 4 Mehefin 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr oedd dwy chwarel ar lethrau mynydd Gurn Ddu a aeth dan yr enwau Chwarel Tan-y-graig, rhif 1 a rhif 2, ac fe’u hunwyd maes o law dan yr un berchnogaeth. Agorwyd Chwarel Tan-y-graig rhif 1, y fwyaf deheuol o’r ddwy, ym 1864, gan Gwmni Setiau Tan-y-graig, Cyf. Yn wreiddiol fe’i galwyd yn Chwarel Williams. Chwarel ithfaen ydoedd, ar lethr ogleddol Gurn Ddu, i’r de ac uwchben ffermdy Tan-y-graig ym mhlwyf Llanaelhaearn. Caewyd ym 1866, ond fe’i hail-agorwyd gan ddyn o’r enw J.H. White a sefydlodd Cwmni Chwareli Ithfaen Gogledd Cymru, Cyf., ym 1877. Gwerthodd y cwmni ym 1882. Serch hynny, roedd yr inclein, glanfa ar lan y môr ar draeth Trefor a’r adeiladau i gyd wedi eu gadael erbyn 1885. Ail-afaelwyd yn y chwarel tua throad y ganrif, a rhwng 1901 a 1915 roedd y chwarel yn cael ei rhedeg gan y Cwmni Prydeinig Ithfaen Llwyd, Cyf. Yn ystod teyrnasiad y cwmni hwn, adeiladwyd inclein newydd hir a serth tua 1905 a gysylltodd ag inclein Chwarel Tyddyn Hywel, er nad oedd y chwareli wedi eu huno o dan yr un berchnogaeth. Daeth cwmni Ithfaen Llwyd i ben ym 1915, a phrynwyd y chwarel gan Gwmni Ithfaen Enderby a Stoney Stanton Cyf., perchnogion Chwarel Tyddyn Hywel. Adeiladwyd peiriant malu cerrig yn y chwarel ym 1908; erbyn 1915, malurion ithfaen ar gyfer cynhyrchu metlin macadam oedd prif gynnyrch y chwarel. Fe’u hallforiwyd o gei ger Bryn-yr-eryr. Bu’r cwmni hwnnw yn dal i berchen y chwarel tan 1931 (trwy ei is-gwmni, Cwmni (Cymreig) Enderby, Cyf.). Ym 1930 neu 1931 fe’i gwerthwyd i gwmni mawr Thomas W. Ward Cyf., ond hyd y gwyddys, ni weithiwyd y chwarel gan gwmni Ward. Caewyd y chwarel yn llwyr ym 1931; nid oedd y chwarel wedi cynhyrchu setiau ers 1927. Mae’n ymddangos mai’r rheswm dros gau’r chwarel oedd y methiant i ddenu chwarelwyr i weithio yno, gan fod Chwarel Ithfaen Trefor yn talu cyflogau gwell. Roedd Chwarel Tan-y-graig rhif 2, yn ôl pob sôn, yn hŷn na chwarel rhif 1, ac arferid ei galw’n Chwarel Huw Evans neu Chwarel Black Shot. Cynhyrchu setiau oedd unig waith y chwarel hon, ac roedd yn cael ei gweithio, mae’n debyg, o ganol yr 1800au. Rhwng 1877 ac 1879 fe osodwyd gan y landlordiaid, Turner (Syr Llewelyn Turner, mae’n debyg) a Spargo (Edmund Spargo, dyn a ddisgrifiwyd fel “dyn gwellt â ganddo gymeriad amheus”). Ym 1879, cymerwyd y gwaith drosodd gan y Cwmni Setiau Ithfaen Cenedlaethol, Cyf., a’r un flwyddyn ffurfiwyd Cwmni Newydd Chwarel Setiau Tan-y-graig, Cyf. Ysywaeth, aeth y cwmni hwnnw i’r wal ym 1886. Rhwng 1901 a 1904, y perchennog oedd Cwmni Ithfaen Tan-y-graig, Cyf. - rhaid bod yn ofalus i wahaniaethu rhwng y gwahanol gwmnïau a ddefnyddiai Tan-y-graig yn rhan o’u henwau ffurfiol. Ni fu’r cwmni newydd yn llwyddiant, ac fe gaewyd Chwarel rhif 2 ym 1903 am y tro olaf. Roedd system o gludo’r cynnyrch i lawr i’r lanfa yn y môr newydd ei sefydlu, a hynny trwy gyfrwng cewyll a deithiai trwy’r awyr ar hyd rhaffau dur. Y bwriad oedd dechrau cynhyrchu malurion ithfaen, ond mae’n amheus a ddefnyddiwyd y rhaff-gludydd hwn o gwbl. Rywbryd ar ôl 1903, ac yn sicr erbyn 1915, unwyd y ddwy chwarel a Chwarel Ithfaen Tyddyn Hywel. Mae manylion am hanes mwy diweddar y chwareli i’w gael yn yr erthygl am y chwarel honno. Symudwyd y cynnyrch o’r chwarel, a oedd ar ochr y mynydd ac yn bur anhygyrch, trwy system o dramffyrdd ac incleins gyda’r cledrau tua 2 droedfedd oddi wrth ei gilydd - sef lled arferol chwareli gogledd Gwynedd. Erbyn 1875, roedd cwmni Tan-y-graig yn awyddus i rannu pîr Chwarel Ithfaen Trefor yn Nhrefor, ond cafwyd gwrthwynebiad gan y cwmni hwnnw, ac arweiniodd hynny at i’r cwmni orfod defnyddio’u pîr ei hunain, ar ben gogleddol traeth Trefor, ger Y Gapas Lwyd. O 1905 ymlaen, cysylltwyd y system o dramffyrdd gyda rhai Chwarel Tyddyn Hywel, ymhellach i’r gogledd.[1] Mae’n ddringfa serth iawn at y chwareli hyn, gyda’r canlyniad nad oes fawr o ddifrod wedi ei achosi i adeiladau’r chwareli hyn, ar wahân i doeau’r adeiladau a’r rhan fwyaf o’r peirianwaith.

Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.264-7; Gwefan Ipernity, [1], cyrchwyd 1.6.2022