John Robinson, goruchwyliwr chwarel a blaenor
Ganed John Robinson (1805-1867) yng Nghefneithin, Carmel, yn fab hynaf Hugh ac Ellin Robinson, Cefn Eithin.[1] Yn ei ieuenctid dywedid ei fod yn fachgen gwyllt ac ymladdgar nes iddo benderfynu callio, ac erbyn 1828, ac yntau'n 24 oed, roedd yn athro yn yr ysgol Sul yng Ngharmel, ac ymhen pedair blynedd fe'i codwyd yn flaenor. Daeth i adnabod John Jones, Tal-y-sarn yn dda, a dichon trwy hynny fe'i dyrchafwyd yn oruchwyliwr Chwarel Dorothea. Yng Nghyfrifiad 1861, cofnodir ei fod yn byw yn Dorothea House, gyda'i wraig Margaret (dynes o Aber-erch, 20 mlynedd yn iau nag ef) a'u dau fab ifanc, John ac Owen Jones Robinson.[2] Yn ddiweddarach yn ei oes bu'n aelod a blaenor yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhal-y-sarn.[3]
Ni ddylid ei gymysgu â John Robinson, Plas Tal-y-sarn, perchennog chwareli a oedd yn Sais o Lerpwl ac yn eglwyswr. Cymro a aned yn lleol i deulu a oedd wedi byw ym mhlwyf Llandwrog am o leiaf ddwy os nad tair cenhedlaeth oedd John Robinson sy'n destun y darn hwn.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma