Tom Bowen Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:25, 19 Mai 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dawi Griffiths yn cyflwyno copi o'i gyfrol Ar Anwadal Donnau'r Byd i Tom Bowen Jones ar achlysur agor Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn Ebrill 2006

Ffermwr, pysgotwr, cenedlaetholwr a bardd oedd Tom Bowen Jones (ganed 1921), Gwydir bach, Trefor. Yr oedd yn frawd i Robert Herbert Jones, bardd arall crefftus, a adwaenid fel Robin Gwydir Bach.[1]

Cychwynnodd farddoni'n ifanc. Medd Cynan mewn erthygl yn Lleufer:

"Ond yn wir i chi...dyma hogyn pedair ar bymtheg oed ataf â'r englyn campus hwn...i:
Fynwent y Milwyr
O! Dirioned yw'r huno - sy o fewn
       Y ddwys fynwent honno,
     Y gwelw griw mewn gwelâu gro
     O'r ffosydd yn gorffwyso.
Amaethwr ifanc, Ton Bowen Jones, yw'r awdur."[2]

Yn Awst 1968 cynhaliwyd Y Genedlaethol yn Y Barri a’r Fro. Testun yr englyn oedd Map a’r enillydd oedd Tom Bowen Jones. Rhestrir yr englyn ymhlith dwsin englyn gorau yr Eisteddfod Genedlaethol yn y ganrif ddiwethaf, yn ôl Dafydd Islwyn[3].

Map
Yn hwn o hyd chwilio a wnaf  -ar fy hynt
       Am ryw fan a geisiaf;
     Ond ynddo chwilio ni chaf
     Yn niwl y siwrne olaf.

Englyn arall nodedig o'i eiddo yw'r un a dorrwyd ar gofeb Eben Fardd ym mynwent eglwys Clynnog Fawr. Yn nechrau'r 1950au, yn dilyn ymgyrch a arweiniwyd gan Glan Rhythallt ar dudalennau'r Herald Cymraeg, casglwyd arian i lanhau'r gofadail sylweddol sydd ar y bardd a chynhaliwyd cystadleuaeth yr un pryd i gyfansoddi englyn i'w dorri ar y gofeb. Cafwyd nifer sylweddol o gynigion, ond englyn Tom Bowen Jones a ddyfarnwyd yn fuddugol gan y beirniad, John Eilian. Mae'n gampwaith o englyn ac yn adleisio testun awdl fwyaf Eben Fardd, sef "Dinistr Jerwsalem":

 Dinistr Caersalem dynion - a welaist,
      A'u rhyfeloedd creulon;
   Cei fyd dianrhaith weithion
   Ar bwys yr hen eglwys hon.  

Ar y cyd â Tecwyn Jones, bardd gwlad o Eifionydd, fe gyhoeddodd ddetholiad o gerddi ym 1981. [4].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol
  2. Cynan, Dysgu Barddoni (Lleufer, Cyf.XVIII, 3 (Hydref 1962) ), t.114.
  3. Dafydd Islwyn, Colofn Dafydd Islwyn (Cwmni, Papur Sir Caerffili, Rhifyn 206, Hydref 2018) t.14.
  4. Tom Bowen Jones a Tecwyn Jones, O Windy a Gweithdy’r Gân (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1981),