R.P. Evans

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:58, 17 Mai 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae enw Robert Pritchard Evans (1884-1917) yn adnabyddus fel cyfaill i'r bardd Robert Williams Parry ac yn wrthrych rhai o'i englynion godidocaf. Fe'i ganwyd ym 1884.

Daeth R.P. Evans yn athro yn Ysgol Gynradd Trefor ar y 4ydd o Orffennaf, 1909, a chyfeirid ato gan bawb yn Nhrefor fel Ifas Llecheiddior, oherwydd mai mab Melin Llecheiddior, Bryncir, ydoedd. Ei rieni oedd William ac Elizabeth Evans. Enillodd radd B.A. mewn Saesneg ym Mangor ym 1907, ac roedd yn gyd-fyfyriwr â Williams Parry yno. Ymadawodd ag ysgol Trefor ddiwedd Ebrill 1912, wedi cwta dair blynedd, ac aeth i ysgol Llanfairfechan.

Roedd yn filwr yn y Rhyfel Mawr ac yn Is-lefftenant gyda'r Gatrawd Gymreig, Bataliwn 14. Bu farw o'i glwyfau, yn 32 oed, yn Fflandrys yn Ebrill 1917, ac fe'i claddwyd ym Mynwent Mendinghem yng Ngwlad Belg. Dyna pryd y canodd Bardd yr Haf ei englynion coffa adnabyddus iddo. Dyma nhw :

  Llednais oedd fel llwydnos haf, llariaidd iawn
       Fel lloer ddwys Gorffennaf;
     O'r addfwyn yr addfwynaf,
     Ac o'r gwŷr y gorau gaf.
  Ei wlad ni chadd ei ludw, ond yn Ffrainc,
       Dan ei phridd, mae 'nghadw:
    Ei gerddi teg roddo'u tw
    Ar fyfyriwr fu farw.
  Eifionydd a fu inni'n baradwys
       O barwydydd trefi;
    O na bai modd im roddi
    Dy lwch yn ei heddwch hi.
   Fe ddaw'r claf o'i ystafell hyd y maes,
       Ond mae un diddichell
    Na ry gam, er ei gymell,
    Dros y môr o dir sy 'mhell.
          Ef a'i Frawd 
   Nid fan hon y dwfn hunant, dros y môr
       Dyrys maith gorffwysant:
     Ond eu cofio'n gyson gânt
     Ar y mynor ym Mhennant.