Tylwyth Teg Drws-y-coed
Chwedl sy'n perthyn i ardal Drws-y-coed yw'r stori am Dylwyth Teg Drws-y-coed.
Yn debyg i arddull chwedlau eraill o'r ardal yma, mae'r stori'n seiliedig ar berthynas merch a gŵr ifanc.
Prif Stori
Yn ôl fersiwn y Parch W. R. Ambrose, roedd gŵr ifanc yn byw yn un o ffermydd Drws-y-coed, ac roedd wedi digwydd gwrando ar noson lawen a gynhaliwyd gan lwyth o Dylwyth Teg ger ei gartref. Roedd wedi syrthio mewn cariad ag un o'r merched, ac wedi ei dwyn oddi yno a mynnu ei bod yn ei briodi. Ar ôl ei chloi yn ei gartref, dywedodd y ferch y buasai yn ei wasanaethu fel morwyn ac yn ei briodi os byddai'n gallu dyfalu ei henw'n gywir. Methu â dyfalu a wnaeth y gŵr am hir amser, nes iddo ddigwydd clywed llwyth o dylwyth teg yn siarad un diwrnod - a digwydd clywed un ohonynt yn hiraethu am ei chwaer, sef 'Penelope'. Ar ôl rhuthro adref, dyma'r gŵr yn cyhoeddi wrth ei forwyn ei fod yn gwybod ei henw, ac yn unol â'i haddewid bu i'r ddau briodi. Roedd un amod pwysig i'r briodas - os byddai'r gŵr yn taro Penelope gyda haearn, roedd hi'n rhydd i fynd yn ôl at ei llwyth yng Nghoedwig Drws-y-Coed.
Roedd y ddau wedi priodi am flynyddoedd ac wedi magu dau o blant, cyn i'w stori ddod i ben. Ar ôl dod ag ebol newydd adref o Ffair Gaernarfon, roedd y gŵr yn cael trafferth enfawr i osod pedol arno. Wrth weld y drafferth a gawsai, dyma Penelope yn mynd ato i geisio ei gynorthwyo ond, heb weld ei wraig a heb gofio'r amod a osodwyd flynyddoedd ynghynt - dyma'r gŵr yn taflu'r bedol yn ei dymer gan daro ei wraig. Mewn eiliad, roedd wedi diflannu o'i olwg ac wedi mynd yn ôl at ei phobl.
Ffynhonnell
Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872) tt. 52-53