Chwedl Llwyn y Ne
Ceir chwedl yn gysylltiedig â llecyn Llwyn y Ne, ar gyrion pentref Clynnog-fawr.
Yn ôl adroddiad W. R. Ambrose, enw ar lethr uwchlaw Clynnog yw Llwyn y Ne. Roedd aderyn arbennig yn byw mewn llwyn ar y llethr hon, ac roedd ganddi’r gallu i ganu alawon swynol dros ben. Mor swynol oedd ei chân fel bod gweithwyr i Beuno Sant yn cael eu hudo i wrando arni tra oeddent yn adeiladu ei eglwys, ac felly'n arafu eu gwaith. Yn ôl y stori, roedd Beuno wedi gweddïo am i’r aderyn fynd oddi yno i rywle arall, er mwyn i’r gwaith fynd yn ei flaen yn ddi-rwystr. Yn ôl fersiwn arall o'r chwedl aeth un o fynaich mynachlog Beuno gerllaw am dro i Lwyn y Ne. Pan glywodd yr aderyn yn canu fe'i cyfareddwyd gan y gân ac aeth i fath o berlewyg. Pan ddychwelodd i'r fynachlog roedd ei hen gyfeillion i gyd wedi marw a dynion newydd yn eu lle - roedd wedi bod i ffwrdd am ganrif gyfan!
Ceir cyfeiriadau at Lwyn y Ne yn nyddiaduron Eben Fardd ac mewn un man mae'n nodi iddo dreulio prynhawn yno'n yfed a thrafod barddoniaeth gyda'i gyfaill John Pughe (Ioan ab Hu Feddyg). Pan ddychwelodd Eben adref i'w gartref, Bod Gybi, ymhen hir a hwyr cafodd bryd o dafod eithriadol gan ei wraig, Mary, nid heb achos mae'n siŵr! Erbyn hyn mae stad o dai cyngor wedi cael eu hadeiladu ar y safle.
Ffynhonnell
Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872)
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma