Morgan Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:27, 4 Mai 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Darlledwr teledu yw Morgan Jones(g. 1971), brodor o Drefor. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, lle cafodd radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ac yna llunio traethawd PhD ar y beirdd o'r ail ganrif ar bymtheg, Phylipiaid Ardudwy. Daeth i amlygrwydd fel cyflwynydd teledu gyda'r rhaglen Sgorio, a ddangosai uchafbwyntiau gemau pêl-droed o uwch gynghreiriau Ewrop, ynghyd â rhaglenni chwaraeon eraill. Bu'n aelod o Fand Trefor ers yn blentyn ifanc gan ddatblygu'n offerynnwr medrus. Mae hefyd wedi cyflwyno cystadlaethau bandiau pres ar y teledu a chystadleuaeth flynyddol Côr Cymru. Yn ogystal â'i waith darlledu mae'n gweithio fel cyfieithydd ar ei liwt ei hun. Mae hefyd wedi cyflwyno'r eitemau ar bob rhifyn o gylchgrawn sain Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Utgorn Cymru ers ei sefydlu.

Mae'n fab i Geraint Jones, arweinydd Band Trefor.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma