Huw Jones, Cwmni Sain

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:04, 18 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Canwr, darlledwr a dyn busnes yw Huw Jones (ganwyd 5 Mai 1948). Daeth yn ffigwr amlwg yng ngherddoriaeth Cymru yn y 1960au ac am ei gân brotest Dŵr oedd yn sôn am foddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn. Cyd-sefydlodd nifer o gwmnïau cyfryngol Cymraeg yn cynnwys Cwmni Sain, Teledu'r Tir Glas a Barcud. Bu'n brif weithredwr S4C am ddegawd ac yn gadeirydd y sianel wedi hynny.

Bywyd cynnar

Ganwyd David Huw Jones ym Manceinion i deulu oedd â'u gwreiddiau yn Sir Drefaldwyn. Symudodd y teulu i Gaerdydd lle'r addysgwyd Huw yn Ysgol Bryntaf ac Ysgol Uwchradd Y Bechgyn. Ar ôl gadael ysgol astudiodd Ffrangeg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.

Dechreuodd ganu'n gyhoeddus yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, ac yna mewn clybiau canu gwerin yng Nghaerdydd. Roedd yn perfformio'n aml gyda chyfoedion fel Heather Jones, Geraint Jarman, Huw Jenkins ac Eluned Evans.

Gyrfa

Ym 1968 arwyddodd i Welsh Teldisc a rhyddhau'r EP Cymru'r Canu Pop a flwyddyn yn ddiweddarach y sengl "Y Ffoadur". Nid oedd Huw yn hapus gyda chyfleusterau recordio cyntefig Welsh Teldisc ac felly, ym 1969, ffurfiodd Gwmni Recordiau Sain gyda Dafydd Iwan a Brian Morgan Edwards. Bu'n rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni hyd at 1981.

Cyd-sefydlodd un o'r cwmniau teledu annibynnol cyntaf, Teledu'r Tir Glas a'r cwmni adnoddau Barcud, ac roedd yn Gadeirydd y cwmni hwnnw rhwng 1981-1993. Mae nawr yn Gadeirydd Portmeirion Cyf., yn is-Gadeirydd Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn ac yn Ymddiriedolwr y Gymdeithas Deledu Frenhinol.

Erbyn y 1970au cynnar roedd yn cyflwyno'r rhaglen bop wythnosol ar BBC Cymru, Disc a Dawn.

Roedd yn brif weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005 a daeth yn gadeirydd Awdurdod S4C ym Mehefin 2011. Ymddeolodd o'r swydd ym Medi 2019.

Bywyd personol

Dwy flynedd ar ôl sefydlu Sain, penderfynodd Huw a'i wraig symud i'r gogledd i fagu teulu. Symudodd i Landwrog gan rentu bwthyn yno i ddechrau. Mae ef a'i wraig yn dal i fyw yn Llandwrog hyd heddiw.[1]

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia ar Huw Jones (Darlledwr), [1], cyrchwyd 26.9.2021