Bwlch Dau Fynydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:29, 7 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae'r disgrifiad o leoliad Bwlch Dau Fynydd yn creu peth dryswch. Ger y fan honno, yn ôl y beirdd, yr ymladdwyd Brwydr Bryn Derwin, ac felly gellid cymryd mai yn ardal Pant-glas oedd maes y frwydr. Fodd bynnag, fe honnir gan rai, yn cynnwys neb llai nag Eben Fardd, mai Bwlch Mawr yw enw'r bwlch rhwng y ddwy Gurn a'r mynydd a elwir yn Fwlch Mawr ar un ochr a mynyddoedd Crib Nantlle ar y llall, sef y bwlch eang y rhed y ffordd o Gaernarfon i Borthmadog trwyddo yn ardal Pant-glas. Nododd ef, ac eraill, megis y Parch. Peter Bayley Williams, mai'r bwlch rhwng Yr Eifl a Moel Penllechog ger pentref Llanaelhaearn yw Bwlch Dau Fynydd. Mae'r bwlch cul sy'n arwain o'r môr i fyny'r allt i gyfeiriad pentref Llanaelhaearn yn ymddangos yn fan strategol well fel safle brwydr.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Eben Fardd, Cyff Beuno (Tremadog, 1864), t.31; P.B. Williams, A Tourist's Guide through the County of Caernarvon", (Caernarfon, 1821), t.159