Nant y Cwm, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:26, 5 Ebrill 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Afon fechan sy'n llifo i lawr o lethrau'r Eifl yw Nant y Cwm. Fe'i gelwir gan rai hefyd yn Nant Cilmin.

Mae'n tarddu o ffrydiau ar lethrau mynydd canol Yr Eifl (Garn Ganol) ac ar waelod Craig y Cwm mae'n llifo heibio i adfeilion ffermdy a elwid hefyd yn Nant Cwm. Bu teulu'n byw yn y tyddyn hwn tan ddechrau'r 20g gan ffermio'r caeau bychain wrth ei ymyl a'r llechweddau uwchben. Yna mae Nant y Cwm yn llifo'n gyflym a byrlymus i gyfeiriad ffermdy Cwm ac yno defnyddid ei dŵr i droi melin flawd fechan. Mae adeilad y felin yn sefyll o hyd mewn cyflwr da dros y ffordd i'r ffermdy a gellir gweld safle'r olwyn ddŵr a phwll y felin o hyd. Yna mae Nant y Cwm yn llifo o dan y ffordd fynydd o Lanaelhaearn i Drefor (Lôn 'r Eifl fel y gelwir hi gan drigolion lleol) gan fynd yn ei blaen drwy Goed y Cwm cyn ymuno ag Afon Tâl gerllaw Elernion.[1]

Weithiau, fe elwir y nant yn Nant Cilmin, a dywedir fod ôl troed Cilmin Droed-ddu i'w weld ar wely'r nant nid nepell o furddun Nant-y-cwm.[2]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol
  2. Mary Hughes, Ellyll Hyll a Ballu (Clynnog-fawr, 2008), tt.1-12