Nant Cilmin
Nant Cilmin yw enw'r afonig fechan sydd yn codi ar lethrau gogleddol Garn Ganol, y canol (a'r uchaf) o dri chopa Yr Eifl. Gelwir y nant sy'n llifo o Graig y Cwm i Afon Tâl heibio i fferm Cwm yn Nant Cilmin, a dywedir fod ôl troed Cilmin Droed-ddu i'w weld ar wely'r nant nid nepell o furddun Nant-y-cwm. Defnyddid ei dŵr ar un adeg i droi melin flawd fechan yn fferm y Cwm ac, ar ôl llifo drwy geunant pur serth yng Nghoed y Cwm, mae'n ymuno ag Afon Tâl ger ffermElernion. [1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Mary Hughes, Ellyll Hyll a Ballu (Clynnog-fawr, 2008), tt.1-12