Afon Crychddwr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:21, 4 Ebrill 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Afon Crychddwr ger Pont y Lloc

Mae Afon Crychddwr ym mhlwyf Llanllyfni yn enw ar yr afon o'r pwynt lle'r ymuna Afon Ddu ac Afon Cwm Dulyn dan Bont Lloc yn Nebo ac yn llifo o'r pwynt yna i lawr ac, ar ôl llifo dan Pont y Crychddwr ar yr hen briffordd (nid nepell o fynwent Llanllyfni), yn ymuno ag Afon Llyfni ger fferm Dol-gau. Rhwng pontydd Lloc a Chrychddwr saif adeilad o'r enw Pandy Hen sy'n tystio i'r ffaith fod yr afon wedi bod yn troi olwyn melin bannu ar un adeg.[1]

Mae rhai parchus yn esbonio'r enw fel dŵr sy'n crychu, sef ddim yn llifo'n llyfn. Er hynny, dichon mai parchusiad o'r gair Cachddwr sydd yma, i ddisgrifio lliw'r dŵr. Enw cynharach ar yr afon oedd Afon Coed Cae Du; dyna'r enw a ddefnyddiwyd adeg Cyfrifiad 1851.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Mapiau Ordnans 6" i'r fodfedd, [1]