Côr Meibion Dyffryn Nantlle
Mae Côr Meibion Dyffryn Nantlle wedi ei sefydlu ers bynyddoedd lawer. fe'i elwir weithiau yn "Gôr Leonard", ar ôl yr arweinydd cynnar, C. H. Leonard.
Ceir cofnod yny Radio Times am gyngerdd a ddarlledwyd ar 8 Mawrth 1937, fel a ganlyn:
Arweinydd, C. H. Leonard gyda W. H. J. Jenkins (ffidil) o Sinema'r Plaza, Penygroes.
Sinema'r Plaza oedd unig sinema'r cwmwd; fe'i lleolid y tu ôl i dafarn y Victoria yng nghanol Pen-y-groes.
Ar ôl dyddiau C.H. Leonard, arweinid y côr gan Arthur Wyn Parry, ac wedyn gan Eurgain Eames, sydd yn dal wrth yr awennau.