Ffynnon Cilmin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:19, 31 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae J.E. Griffith yn nodi bod ffynnon o'r enw Ffynnon Cilmin ar dir Plas Newydd, Llandwrog. Mae Fountain a Spring yn cael eu nodi ar fap Ordnans 1900, ger Coed y Kennel i'r gogledd-ddwyrain o hen dŷ Plas Newydd. Gerllaw'r ffynnon, meddai Griffith, mae olion hen dŷ Cilmin Droed-ddu ei hun i'w gweld. Anodd yw cadarnhau dim o hyn, ond rhaid bod hen draddodiad yn y cylch, gan y byddai'r sgweier a roddodd wybodaeth am ei deulu, mae'n debyg, sef Frederick George Wynn, yn ddi-Gymraeg ac felly'n annhebygol o fathu enw Cymraeg ar ffynnon.

Ni wyddys am gyfeiriad at Ffynnon Cilmin heblaw am yr hwnnw a geir gan Griffith.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.266