Cwm Du

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:15, 23 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cwm Du, gyda Chraig Cwmbychan ar y dde. Llun:Eric Jones CC-BY-SA2.0

Cwm Du yw'r cwm uchel ar lethrau gogleddol Mynydd Mawr, gyda nant yn ei waelod, sy'n rhedeg i lawr i Glogwyn Gellog nes ymuno ag Afon Gwyrfai. Y tu ôl i Gwm Du mae Craig Cwm Du, craig serth. Ym mhen draw gorllewinol y Graig mae 5 adit, neu gloddfa fach, sy'n tystio i'r man fod yn fwynglawdd (haearn mae'n debyg) rywbryd yn ystod y 300 mlynedd diwethaf; dichon na chafwyd hyd i fwynau ar raddfa fasnachol ac fe roddwyd y gorau i weithio'r lle yn fuan.[1]

Ymysg y dringwyr cyntaf i ddringo ar y graig uwchben y cwm oedd George Mallory (a gollwyd ar Everest). Ym 1912 fe ddarganfu dair ffordd i fyny'r graig, sef Pis Aller Rib, Yellow Buttress ac Adam Rib.[2] Dichon mai iddo fo a'i debyg, er gwaethaf eu gorchestion mynydda, y mae'r diolch am enwau Saesneg y cwm, megis Saxifrage Gully, sydd yn ymddangos hyd yn oed ar fapiau Ordnans y dyddiau hyn o'r cwm.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein [1], cyrchwyd 4.5.2020
  2. Peter Gillman a Leni Gillman, Wildest Dream - the Biography of George Mallory, (Seattle, 2000) t.101