Cwmni Nwy Pen-y-groes, Llanllyfni a Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:35, 22 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Cwmni Nwy Pen-y-groes, Llanllyfni a Dyffryn Nantlle (Penygroes, Llanllyfni and Nantlle Vale Gas Co. Ltd) yn weithredol o 1874-5 os nad yn gynharach.[1] Y flwyddyn honno, gwahoddwyd tendrau trwy gyfrwng y wasg leol i gynhyrchu nwy ar gyfer cwsmeriaid y cwmni. Yr Ysgrifennydd ar y pryd oedd y Parch. W.R. Ambrose, Tal-y-sarn.[2]

Safai'r gwaith nwy yn Nhal-y-sarn i'r de o Gangen reilffordd Nantlle, ychydig cyn yr orsaf. Roedd gan y gwaith seidin bwrpasol er mwyn derbyn glo ac allforio sgîl-gynnyrch y broses o greu nwy.

Caewyd y gwaith pan ddaeth nwy naturiol trwy bibell i'r ardal, a chwalwyd y gwaith yn llwyr. Ychydig iawn sydd i'w weld heddiw lle bu'n sefyll.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, X/Dorothea/2020
  2. Caernarvon & Denbigh Herald, 23 Mai 1874.