Melin Ysgubor Fawr
Roedd Melin Ysgubor Fawr yn felin fach ar fferm ym mhen mwyaf dwyreiniol plwyf Llanaelhaearn. Tybir mai melin i falu eithin ar gyfer porthiant ydoedd. Mae'r adeilad sydd yno'n fach iawn a heb ffenestri ac yn ymdebygu'n fwy i adeilad amaethyddol, ond ar un adeg bu olwyn ddŵr â siafft yno yn troi mewn cafn. Mae'n sefyll ar ochr buarth fferm Ysgubor Fawr.[1] Mae'r adeilad wedi ei restru'n radd II gan CADW, sydd yn dyddio'r adeilad i'r 18-19g.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
.