Melin Lleuar

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:48, 18 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ceir cyfeiriad at Felin Lleuar mewn dogfen dyddiedig 1674, lle mae'n cael ei rhestru ymysg eiddo Ystad Lleuar. Melin falu grawn ar lan afon oedd hi, ac mae'n debyg ei bod yn sefyll nid nepell o blasty Lleuar Fawr ar Afon Llyfni, gan y disgrifir lleoliad y felin fel un ym mhlwyf Llanllyfni.[1] Nid yw safle Melin Glan-yr-afon ymhell, a safai ar lan ogleddol Afon Llyfni lle mae'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llanllyfni; ond rhaid disgwyl am dystiolaeth bellach cyn ystyried mai yr un un oedd 'Melin Lleuar' a 'Melin Glan-yr-afon'. Dywedir i adeilad honno gael ei godi tua 1774.[2] Mewn dogfen o 1729, disgrifir lleoliad Melin Lleuar ('water corn grist mill') fel trefgordd Pennarth, sef un o drefgorddau Clynnog Fawr.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/7551.
  2. Manylion gwerthwr tai Dafydd Hardy, [1], cyrchwyd 02.08.2018
  3. Archifdy Gwynedd, XD2/7623.