Cors y Llyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:16, 15 Mawrth 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cors y Llyn yn ardal o rostir a thir comin rhwng Nebo a Llyn Cwm Dulyn, ac Afon Cwm Dulyn yn rhedeg trwyddi. Mae'r gors yn ymestyn o gyrion Nebo hyd at y llyn, Fron-dulyn a Hafod y llyn. Cyn newid ffiniau'r cymunedau, arferai hanner Cors y Llyn fod ym mhlwyf Clynnog Fawr a hanner yn Llanllyfni; erbyn hyn, mae'r cwbl yn gorwedd o fewn plwyf a chymuned Llanllyfni.

Dichon fod y gors mor wlyb fel nad yw fawr o ddefnydd ar gyfer pori da byw. Ceir yno lawer o blanhigion diddorol a phrin y corstiroedd, megis eurinllys y gors, llugaeron, helyg, peiswellt, tegeirianau a chyfoeth o fwsoglau a llysiau'r iau gyda 12 rhywogaeth o figwyn. Mae'n cynnal nifer o rywogaethau o adar a thrychfilod sydd hefyd yn prinhau. Cofrestrwyd y gors fel Safle Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol.

Mae darn canolog y gors ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ond mae'r gweddill wedi ei gofrestru fel tir comin Cyngor Cymuned Llanllyfni.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Nantlle.com [1], cyrchwyd 2.9.2019