Rhos-las
Rhos-las yw'r enw ar y rhostir eang i'r gogledd o Gwm Dulyn a'r tu draw i fawndir Cors-y-llyn ym mhen draw ardal Nebo. Mae'n dir diarffordd ac anghyfannedd a ddefnyddir fel porfa tir comin hyd heddiw; Gan ei fod ar oleddf, mae rhywfaint yn sychach na thir Cors-y-llyn. Mae'n rhan o'r hyn a elwir weithiau'n Fynydd Llanllyfni mewn hen ddogfennau. Mae Afon Ddu yn codi ynghanol Rhos-las.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma