Ffatri wlân Bontnewydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:08, 6 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffatri wlân ar lan Afon Gwyrfai, ger Plas-y-Bryn yn y Bontnewydd oedd y lle hwn.

Credir iddi gael ei sefydlu yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae cofnod mewn erthygl papur newydd ym 1850 yn nodi ei bod yn weithredol. Yn yr erthygl hon cawn hanes bechgyn yn dwyn gwlân o ffatri Gydros, Pwllheli a'i gario'r holl ffordd i'r Bontnewydd a'i werthu yn y ffatri hon.[1]

Ar fap degwm (c.1841)[2] cyfeirir at y fan yma fel 'Felin'. Ar y rhestr pennu gellir gweld bod llawer o gaeau ynghlwm â'r 'Felin' yma. Gellir gweld fod o leiaf un cae pori, tair gweirglodd a thyddyn yn dod o dan yr un cofnod. Roedd yno William Jones yn denant yn y 'Felin', gyda Catherine Williams yn rhentu tair porfa. Ceir hefyd fod gŵr o'r enw John Ellis yn byw yn y tyddyn. Nid yw'n glir oddi wrth y ffynhonnell hon a oedd y ffatri'n weithredol gan mai melin yn unig sydd wedi ei nodi yma, ac felly ni ellir dweud i sicrwydd fod brethyn yn cael ei gynhyrchu yma cyn gynhared â 1841.

Gellir gweld oddi wrth fapiau yr Arolwg Ordnans o 1888 fod y ffatri'n weithredol, a'i bod yn cael ei phweru gan lif Afon Gwyrfai. Ychydig islaw'r afon mae eiddo o'r enw Dôl-y-pandy, a dichon felly fod pandy hefyd ar un adeg yn cael ei weithredu gan rym y dŵr[3]. Mae modd gweld hefyd fod y lle hwn yn weithredol hyd at 1919 gan fod y map y flwyddyn honno'n nodi "Woollen Factory", ac mae annedd o'r enw "Lodge" wedi ei godi erbyn hynny gerllaw.

Erbyn 1953, mae modd gweld oddi wrth y mapiau fod y ffatri wedi cau, ac erbyn hyn dim ond y sylfeini sydd ar ôl.

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma