Pont Tŷ'n-y-gors

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:56, 4 Mawrth 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont droed, neu bompren, yn croesi Afon Tâl yn Nhrefor yw Pont Tŷ'n Gors.

Mae'n rhan o lwybr cyhoeddus sy'n cychwyn y tu ôl i res Tai Maesyneuadd ac sy'n dod i'r afon ymhen ychydig lathenni. Mae'r bompren yn agos iawn at ffermdy Ty'n Gors ac aiff y llwybr ymlaen wedyn drwy'r caeau gweddol serth nes cyrraedd ffermdy Lleiniau Hirion. Yna aiff ymlaen ymhellach am ychydig nes ymuno â Lôn 'r Eifl, fel y'i gelwir yn lleol, (sef y ffordd gul o Lanaelhaearn i Drefor gyda godrau'r Eifl), ger fferm Llwyn y Brig (Llwyn Pric ar lafar).