Llyn Cwellyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:36, 2 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Llyn Cwellyn yn llyn yn Eryri sy'n gorwedd rhwng Yr Wyddfa yn y de a Mynydd Mawr yn y gogledd, a rhwng pentrefi Rhyd-ddu a Betws Garmon gerllaw ffordd yr A4085. Er ei fod yn wreiddiol yn llyn naturiol, caiff ei ddefnyddio fel cronfa i gyflenwi dŵr i rannau o Wynedd ac Ynys Môn.

Ffotograff o tua 1890-1900

Mae'r llyn yn cael ei rannu rhwng dau berchennog, sef perchennog tŷ Castell Cidwm a Dŵr Cymru.[1]

Mae Llyn Cwellyn yn llyn gweddol fawr gydag arwynebedd o 215 erw (0.87 cilometr sgwar), ac mae dros 120 troedfedd o ddyfnder yn y man dyfnaf. Mae mapiau Arolwg Ordnans yn dangos dyfnder y dŵr yn y llyn [1]. Mae Afon Gwyrfai yn llifo trwyddo. Adeiladwyd argae yn y rhan ogleddol, ond nid yw hyn wedi ychwanegu rhyw lawer at faint y llyn. Ymhlith y pysgod a geir yn y llyn mae'r Torgoch.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Wikipedia, Erthygl ar Lyn Cwellyn, adalwyd 4.9.2018
  2. Wicipedia, Erthygl ar Lyn Cwellyn, [2], adalwyd 4.9.2018