Twll Llwyd
Mae Twll Llwyd yn chwarel fach ar ochr y mynydd uwchben pentrefan Tan'rallt. Dyma un o'r chwareli olaf i weithio ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle, lle bu'r brodyr Humphreys yn cynhyrchu cerrig gwyrddion yn bennaf, mor ddiweddar â dechrau'r 21g., ac mae ychydig o weithgaredd yma hyd heddiw, gyda sied a pheiriannau modern i'w gweld.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Dewi Tomos, Chwareli Dyffryn Nantlle (Llanrwst, 2007), t.77