Tafarn Coed-cae-du

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:12, 23 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

'Roedd Tafarn Coed-cae-du - neu "Tafarn y Coecia" ar lafar gwlad - yn dafarn a agorwyd yn benodol ar gyfer gweithwyr oedd yn adeiladu Rheilffordd Sir Gaernarfon yn y 1860au. Credir fod un o'r ddau dŷ yng Nghoed-cae-du heddiw wedi gweithredu fel y dafarn, er i'r adeilad fod yn hŷn.[1] Nid yw'n glir am faint oedd y dafarn wedi parhau'n agored ar ôl i'r rheilffordd gael ei hagor a'r gweithwyr wedi symud i ffwrdd. 'Roedd y "nafis" yn ddynion a ymfudai o safle i safle lle bynnag yr oedd rheilffyrdd yn cael eu hadeiladu, gan ennill cyflogau da am waith hynod o galed, ac roedd llawer ohonynt yn yfed yn drwm.[2]

Mae'n debyg, fodd bynnag, fod y dafarn wedi cau'n fuan wedi i'r "nafis" symud i ffwrdd, gan nad oes unrhyw sôn am dafarn na thafarnwr yng Nghoed-cae-du yng Nghyfrifiad 1871; roedd y ffarmwr yn byw mewn un tŷ a gwas ffarm yn y llall.[3]

Mae Coed-cae-du i'w weld heddiw wrth ochr ddwyreiniol Lôn Eifion, lle mae hi'n rhedeg ar hyd hen arglawdd mawr y rheilffordd ger pentref Llanllyfni.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1861
  2. Gwefan Dyffryn Nantlle, [1], yn dyfynnu o lyfr Ellen G. Evans, I Chicago yn Bymtheg Oed (Caernarfon, 1981), cyrchwyd 23.2.2022.
  3. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1871