Cei Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:46, 18 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

O'r dechreuadau cynnar yn y 1840au, ar y môr y cludwyd ithfaen o'r chwarel yn Nhrefor; setts, balast, cerrig i naddu ayyb, i ddinasoedd mawrion tu hwnt i Glawdd Offa. Adeiladwyd Cei Trefor o goed i hwyluso'r drafnidiaeth ym 1912, a hynny ar 90 gradd i'r morglawdd o gerrig. Gosodwyd cledrau ar hyd y cei er mwyn i wagenni gyrraedd ochrau llongau i'w llwytho'n syth o'r chwarel, er na chanieteid i'r injians stêm a ddefnyddid ar brif lein Rheilffordd Chwarel Trefor fentro arno.

Yn y 1930au adeiladwyd ffordd newydd (syth) i bentref Trefor, a chynyddodd defnydd lorïau i gario'r ithfaen o'r Gwaith o ganlyniad i hynny.

Tynnwyd y Cei Pren i lawr yn 2018 gan adael y morglawdd o garreg yn unig fel glanfa.

Chwalu'r hen gei pren (hawlfraint: Commercial Boat Services)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma