Thomas Elias Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:32, 16 Chwefror 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Prifathro Ysgol Trefor o 1947 tan 1967 oedd Thomas Elias Parry (? - 1970). Brodor o Garmel yn Arfon ydoedd ac yn ŵr tawel, swil a diymhongar. Cyn symud i Drefor bu'n athro yn ardal Llanberis.

Roedd yn arlunydd talentog a thynnodd luniau cain o nifer o gestyll Cymru ar furiau ei ystafell ddosbarth, yr oll wedi eu gweithio â sialc, ac yn destun edmygedd pawb.

Bu'n ddiwyd iawn ym mywyd Eglwys Maesyneuadd (A) yn Nhrefor, yn ysgrifennydd, ymddiriedolwr, diacon ac athro Ysgol Sul.

Ymddeolodd yn haf 1967 a symudodd i Fangor i fyw. Bu farw Mehefin 1970.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau