Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:45, 15 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dosbarth o Ysgol Penfforddelen, 1904. Miss Grey (a aeth yn brifathrawes Ysgol Fabanod y Groeslon wedyn) yw'r athrawes ar y chwith
Dosbarth o Ysgol Penfforddelen, 1907. Mr Llewelyn Parry yw'r athro.

Ysgol addysg gynradd rhwng pentref Y Groeslon a phentref Carmel oedd Ysgol Penfforddelen, Groeslon. Agorwyd yr ysgol o gwmpas 1873[1]. Yn wreiddiol, cai holl blant y fro eu haddysg yno ar hyd eu gyrfa ysgol oni bai iddynt ennill yr ysgoloriaeth i ysgol ramadeg Pen-y-groes. Yn nes ymlaen, codwyd ysgolion i'r plant iau yn Y Groeslon a Charmel. Yna'n ddiweddarach, sefydlwyd trefn ysgolion cyfun yn y sir, ac aethai holl blant y fro i ysgol uwchradd yn 11 oed, a chaewyd Ysgol Penfforddelen.

Trowyd yr adeilad yn fflatiau, ac mae'n dal i sefyll, ynghyd â thŷ'r prifathro, ar ochr y lôn i Garmel.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Llyfrau Log Ysgol Gynradd Penfforddelen, Groeslon (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/95 [1873-1962]