William Owen (Gwilym Ddu Glan Hafren)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:35, 13 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd William Owen (Gwilym Ddu Glan Hafren) ym Mrynhafod, yn ardal Capel Uchaf, Clynnog Fawr ym 1788. Bu farw ym 1838. Disgrifiodd Eben Fardd ef fel ysgolor ardderchog, bardd a cherddor gwych. Cafodd ei enw barddol o'i ardal fabwysiedig, gan iddo symud i Sir Drefaldwyn tua 1815 i gadw ysgol yn Y Trallwng, ac wedyn yn Y Drenewydd lle bu farw. Bu'n bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac ymddiddorodd mewn emynau a dulliau canu cynulleidfaol.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein, [1]