Gruffudd Parry
'Roedd Gruffudd Parry (1916-2001), mab i chwarelwr, yn athro ysgol a llenor nodedig iawn, ac yn frawd i Thomas Parry. Hanai o bentref Carmel. Ar ôl graddio yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, bu'n athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd Botwnnog am 37 o flynyddoedd. Fo oedd yn ysgrifennu monologau'r Co Bach ar gyfer Richard Hughes ar raglen BBC Noson Lawen yn y 1940au a dechrau'r 1950au.
Dyma restr o'i lyfrau:
- Adroddiadau'r Co Bach (1949)
- Crwydro Llŷn ac Eifionydd (1960)
- Blwyddyn Bentre (1975), sef Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes
- Yn ôl i Lŷn ac Eifionydd (1982)
- Straeon Rhes Ffrynt (1983)
- Sychau yn gleddyfau (1990)
- Mân Sôn (1989)
- Cofio'n ôl (2000)
- Co Bach a Hen Fodan a Wil (2002)
- Mi gana'-i gân: cerddi a baledi (2003)[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma