Alice Gray Jones (Ceridwen Peris)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:04, 10 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Alice Gray Jones (1852-1943) yn Llanllyfni yn ôl rhai ffynonellau, (er i Wicipedia[1] honni mai ym mhentref Trefor y cafodd ei geni), yn ferch i David ac Ellen Jones. Brawd David Jones oedd y Parch. John Jones, Bryn'rodyn a'i mam yn gyfnither i John Roberts (Iolo Caernarfon). Cafodd ei hyfforddi'n athrawes yng Ngholeg Hyfforddi Abertawe, cyn dychwelyd i'w hen ysgol, Ysgol Dolbadarn, Llanberis, yn brifathrawes. Priododd y Parch, William Jones, Y Ffôr, ym 1881.

Wedi iddi briodi a gorfod rhoi'r gorau i'w swydd oherwydd hynny (fel yr oedd yn ofynnol yr adeg honno), trodd at lenydda. Bu'n olygydd Y Gymraes, 1896-1919, pan symudodd i fyw i Gricieth. Ysgrifennodd nifer o lyfrau i blant, gan gynnwys Caniadau Ceridwen Peris (1934). Ysgrifennodd hefyd nifer o werslyfrau ysgol Sul, traethodau dirwestol a phamffled ar foesau merched ifanc.

Bu'n un o sylfaenwyr Undeb Dirwest Gogledd Cymru, ac yn ymgyrchydd brwd dros hawliau merched.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Wicipedia [1], cyrchwyd 18.08.2018
  2. Y Bywgraffiadur Cymraeg, 1941-1950, (Llundain, 1970), tt.25-6; Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986), t.304