Gyfelog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:56, 7 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Gyfelog yn fferm yn ardal Bwlch Derwin o blwyf Clynnog-fawr, nid nepell o hen Ysgol Ynys-yr-arch. Mae Gyfelog ar ochr orllewinol corsdir a elwir yn Gors Gyfelog, a thrwy'r gors rhed nant a elwid yn y gorffennol yn Afon Efelog. Mae'r enw'n hen iawn, yn dyddio'n ôl o leiaf i ddiwedd y 12g., pan soniwyd am yr ardal yn siartrau Abaty Aberconwy. Soniwyd yno hefyd am Flaen Efelog, sef tarddle Afon Efelog yng nghyffiniau fferm Hengwm. O'r fan honno hyd Gyfelog, neu Y Felog, ffurfiai'r afon ffin ogleddol trefgordd Cwm. Rhywle ar hyd yr afon sonnid hefyd am Rhyd Efelog, ond nid yw lleoliad hwnnw'n hysbys bellach.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), tt.134-6