Clwt-y-foty

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:17, 24 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn ôl pob sôn, roedd Clwt-y-foty yn gae ger fferm Bryn'rodyn rhwng Y Groeslon a'r Dolydd lle byddai dynion yn dod ynghyd ar y Sul i chwarae pêl-droed cyn bod effaith y Diwygiad Methodistaidd a dylanwad yr ysgolion Sul wedi cydio yn y rhan fwyaf o'r boblogaeth. Sôn felly yr ydym am gyfnod tua diwedd y 18g ac efallai dechrau'r 19g., cyn bod sôn am bentrefi neu ganolfannau mwy hygyrch.[1]

Dichon mai'r Foty y sonnir amdano oedd Hafod-y-coed neu Hafod Ifan; mae'r ddau y tu ôl i gapel Bryn'rodyn ar y lôn i dreflan Maestryfan. Nid oedd tir o'r enw Clwt-y-foty yn cael ei nodi ar Raniad Degwm y Plwyf, 1839.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.1, (Caernarfon, 1910), t.102