Aelhaearn Sant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:06, 5 Ionawr 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nawdd-sant a aned yn y 7fed Ganrif oedd Aelhaearn Sant. Roedd yn ddisgybl i Sant Beuno. Yn ôl adroddiad Syr J. E. Lloyd, mab Hygarfael, mab Cyndrwyn o Lystin Wennan – ‘Moel Feliarth’ heddiw, ym mhlwyf Llangadfan oedd Sant Aelhaearn. Ef a sefydlodd Cegidfa, Llanaelhaearn, a chapel arall o’r ‘run enw a gynrychiolir gan Gwyddelwern. Roedd cred hefyd fod ei ffynnon Ffynnon Aelhaearn gyda rhinwedd gwella yn ei dyfroedd. Mae ei Ddydd Gŵyl ar Dachwedd 1af.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma