Croesfan Graeanog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:26, 17 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Croesfan Graeanog yn un o ddim ond tair croesfan (neu level crossing) a weithid gan staff y rheilffordd, ar wahân i rai gerllaw gorsafoedd ar y lein o Gaernarfon i Afon Wen ac o fewn ffiniau Uwchgwyrfai. Roedd y groesfan ar y lôn gefn sy'n arwain o'r lôn bost i gyfeiriad Cefn Graeanog. Y mae'r tŷ a godwyd ar gyfer ceidwad y groesfan yn dal i sefyll gerllaw'r groesfan o fath gwahanol, lle mae Lôn Eifion yn croesi'r lôn gefn brysur a ddefnyddir gan lorïau sy'n cario graean o Chwarel Cefn Graeanog.