Slŵp y "Nancy"

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:32, 16 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeiladwyd slŵp a elwid y Nancy yng Nghlynnog Fawr (a dichon mai yn y man a elwid yn Borth Clynnog) a hynny ym 1780. Dyma'r unig long y gwyddys amdani i'w hadeiladu yng Nghlynnog. Cafodd y slŵp 32 tunnell hon oes faith, ond fe'i collwyd (yn ôl pob tebyg gyda'r holl griw) ym 1817.[1]

Cyfeiriadau

  1. David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206