Brigantîn yr ''Ion''

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:28, 16 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr Ion oedd yr olaf o dair llong y gwyddys amdanynt a godwyd yn Nhrefor, a'r fwyaf o ddigon. Fe'i hadeiladwyd ym 1874 gyda dau fast yn cario hwyliau ôl a blaen a sgwarsl (hwyl sgwâr); brigantîn yw'r enw am long gyda rigin o'r fath. Roedd hi'n 230 tunnell o ran tunelledd. Ei hadeiladydd oedd H. Thomas. Fe'i hadeiladwyd ar gyfer perchnogion yng nghylch Lerpwl ac fe'i gwerthwyd ym 1884 i berchnogion o Norwy.[1]

Cyfeiriadau

  1. David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206