Pont Tŷ Newydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:09, 14 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont Tŷ Newydd ym mhlwyf Llanaelhaearn. Fe'i hatgyweiriwyd ym 1834 i gynllun gan William Thomas, syrfewr y sir, gan William Roberts o Lanystumdwy. Y gost oedd £27.10.0c, ac roedd y swm hwnnw i dalu hefyd am ailwneud 200 llath o fetlin ar y ffordd. Diddorol yw sylwi nad oedd William Roberts, er yn grefftwr, yn gallu llofnodi ei enw ar y contract, gan wneud croes yn ei le.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XPlansB/71