Pont Dolydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:10, 12 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont Dolydd ar yr hen ffordd dyrpeg rhwng Ffingar a phentref Y Groeslon ym mhentrefan Dolydd, lle mae Afon Wyled yn ymuno â'r Afon Carrog. Pont un bwa ydyw, yn cario lôn lydan dros y dŵr. Dichon mai rhyd oedd yma'n wreiddiol, gan nad yw'r naill afon na'r llall yn ddofn, ond codwyd y bont bresennol tua 1810 pan ffurfiwyd y ffyrdd tyrpeg yn yr ardal. Saif lle mae hen lwybrau o'r mynydd i'r môr yn croesi'r ffordd sy'n arwain o Gaernarfon i gyfeiriad Dyffryn Nantlle. Pan agorwyd ffordd osgoi yn 2001, fe ddad-drynceiddiwyd y ffordd, ac fel rhan o'r fargen cafodd y Cyngor Sir arian i ddiogelu a chryfhau pontydd yr hen lôn cyn iddi beidio â bod yn rhan o'r A487. Yr adeg honno, gwnaed gwaith atgyweirio ar Bont Dolydd.[1]

Cyfeiriadau

  1. Atgofion personol