Pont Dolgau
Saif Pont Dolgau ar y ffin rhwng plwyfi Llanllyfni a Chlynnog Fawr dros Afon Crychddwr ar y ffordd rhwng Clynnog a Llanllyfni, ac fe godwyd pont newydd mewn ymateb i ddeiseb, dyddiedig 1846, gan nifer o drigolion lleol sy'n nodi fod yr afon yn gorlifo'n aml. Y saer maen a gafodd y cytundeb i godi'r bont newydd am £160 oedd John Prichard o'r Bontnewydd. Gostyngwyd gwely'r afon ger y bont o ryw 4'. Y pensaer ar gyfer y bont oedd John Lloyd, syrfewr y sir.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Gwynedd, XPlansB/90.