Pont Cefn Pederau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:46, 12 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont Cefn Pederau (neu Bont Cefn Bedeirau ar rai mapiau) yw'r bont dros Afon Carrog wrth sgwâr Rhostryfan. Yr enw amlwg ar bont yn y cyfryw le fyddai Pont Rhostryfan, ond mae Rhostryfan fel pentref yn gymharol newydd (rhyw 200 oed efallai), ac felly tybed a yw Pont Cefn Pederau'n dyddio'n ôl i oes cyn hynny, pan nad oedd ond yn pontio'r afon fechan er mwyn cario'r trac o waelodion y plwyf i'r mynydd a'r mawnogydd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma