Ambiwlans Awyr Cymru

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:48, 9 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd y gwasanaeth Amiwlans Awyr Cymru fel elusen yn 2001. Dau hofrennydd oedd gan y gwasanaeth i ddechrau, gydag un wedi ei leoli ym Maes Awyr Abertawe a'r llall ym Maes Awyr Caernarfon. Mae gan y gwasanaeth bedwar hofrennydd erbyn hyn, ac mae un yn hedfan o Faes Awyr Caernarfon o hyd. Cost y gwasanaeth bob blwyddyn yw £6.5m (2021), ac ariennir y cwbl trwy roddion a gweithgareddau. Gall un o'r hofrenyddion gyrraedd unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud, a dyma'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf ym Mhrydain.[1]


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Ambiwlans Awyr Cymru, [1], cyrchwyd 1.2.2021