Gwesty'r Nantlle Vale
Adeilad sylweddol a godwyd yn Nhal-y-sarn yn y 1860au[1] oedd Gwesty'r Nantlle Vale. Safai nid nepell o orsaf newydd Nantlle a agorwyd ym 1872, a dichon mai'r rheswm am godi gwesty yno oedd er mwyn darparu llety i unrhyw ddynion busnes a'u cyffelyb a fyddai'n cyrraedd ar y trenau newydd. Rhaid cofio mai pentref newydd ar ei brifiant oedd Tal-y-sarn ar y pryd, gyda'r chwareli llechi'n ehangu'n gyflym.
Dyma oedd prif dafarn y pentref am ganrif a mwy. Ym 1907, ceisiwyd gwerthu'r gwesty, ond nid yw'n bendant ei bod wedi ei gwerthu y pryd hynny yn yr arwerthiant. [2]Ym 1909, methodd y perchnogion â thalu'r forgais ac aeth dan y morthwyl unwaith eto. Mae'r hysbyseb a ymddangosodd yn y Carnarvon & Denbigh Herald yn rhoi rhybudd am yr arwerthiant ar 10 Ionawr 1910 yn dangos yn glir maint a safon yr eiddo. Roedd yr adeilad yn cynnwys lobi gyda nenfwd uchel, ystafell fasnachol, ystafell ysmygu, lolfa breifat, selerydd, adran jwg a photel, naw ystafell wely, storfa, cegin, washws, toiledau, certws a stablau, gerddi addurniadol a chae borfa, tua 3402 o lathenni sgwâr i gyd.[3] Diddorol yw sylwi mai Nantlle yw enw'r lle yn yr hysbyseb - er mai yn Nhal-y-sarn oedd y dafarn.
Caewyd y gwesty tua dechrau'r ganrif hon, ac erbyn 2008 roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael, a'r tir wedi tyfu'n wyllt. Cafwyd caniatâd i ddymchwel yr adeilad a chodi tai a fflatiau newydd ar y safle.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
ERTHYGL HEB EI GORFFEN