Gwesty'r Nantlle Vale
Adeilad sylweddol a godwyd yn Nhal-y-sarn yn y 1860au oedd Gwesty'r Nantlle Vale. Safai nid nepell o orsaf newydd Nantlle a agorwyd ym 1872, a dichon mai'r rheswm am godi gwesty yno oedd er mwyn darparu llety i unrhyw ddynion busnes a'u cyffelyb a fyddai'n cyrraedd ar y trenau newydd. Rhaid cofio mai pentref newydd ar ei brifiant oedd Tal-y-sarn ar y pryd, gyda'r chwareli llechi'n ehangu'n gyflym.
Caewyd y gwesty tua dechrau'r ganrif hon, ac erbyn 2008 roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael, a'r tir wedi tyfu'n wyllt. Cafwyd caniatâd i ddymchwel yr adeilad a chodi tai a fflatiau newydd ar y safle.[1]
ERTHYGL HEB EI GORFFEN