Gwesty'r Nantlle Vale
Adeilad sylweddol a godwyd yn Nhal-y-sarn yn y 1860au oedd Gwesty'r Nantlle Vale. Safai nid nepell o orsaf newydd pentref a agorwyd ym 1872, a dichon mai'r rheswm am ei godi yno oedd i ddarparu llety i unrhyw ddynion busnes a'u cyffelyb a fyddai'n cyrraedd ar y trenau newydd. Rhaid cofio mai pentref newydd ar ei brifiant oedd Tal-y-sarn ar y pryd, gyda'r chwareli llechi'n ehangu'n gyflym.
ERTHYGL HEB EI GORFFEN