Huw Lewis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:36, 31 Rhagfyr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Huw Lewis (1562-1634) yn fab teulu Bodellog neu Plas-y-bont ym mhlwyf Llanwnda. Mab ydoedd i Lewis ap William a'i wraig, Agnes ferch William Foxwist o'r Prysgol (plasty bychan ger Caeathro). Huw oedd yr hynaf o bedwar brawd; y lleill oedd Griffith, Richard a John.

Cafodd ei addysg uwch yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, lle cofrestrodd ym 1582 a lle'r ymddiddorodd yn yr athrawiaeth Brotestannaidd ac mewn llenyddiaeth Gymraeg. Roedd ei athro yno, Magister Owen Davies, yn Gymro brwd, a hyrwyddai ddiddordeb ei fyfyrwyr mewn barddoniaeth Gymraeg, ac fe gyfrifid Lewis yn eithaf prydydd. Fel pob dyn graddedig yr adeg honno, cafodd ei ordeinio, gan dderbyn bywoliaeth Llanddeiniolen ym 1590. Tra yno, cyfieithodd lyfr Miles Coverdale, A Spyrytuall and most Precious Pearle teaching all Men to Love and Imbrace the Crosse i'r Gymraeg gyda'r teitl Perl mewn Adfyd, a gyhoeddwyd ym 1595. Dyma'r llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu yn Rhydychen. Nid oedd yn gyfieithiad gair-am-air, ond yn hytrach crynhoad a chyfieithiad yn gymysg, gyda rhai adrannau wedi eu hehangu - sydd yn dangos fod Huw Lewis yn ysgolhaig yn ogystal ag ieithydd. Dywed yn ei ragair i'r gwaith mai ei awydd i ddyrchafu moesau ei gyd-Gymry a'u cefnogi i ymarfer â darllen Cymraeg a'i hysgogodd i lunio'r gyfrol.[1]

Ym 1612, cododd blasty Plas-y-bont ar safle ei hen gartref ar lan Afon Gwyrfai, sydd yn sefyll hyd heddiw.[2]

Fe'i gwnaed yn Ganghellor Eglwys Gadeiriol Bangor ym 1608, ac ym 1623 olynodd Edmwnd Prys fel rheithor Maentwrog a Ffestiniog.[3]

Ei briod oedd Elen ferch Rhydderch, a chawsant ddau fab, Morgan a William ap Huw Lewis. Bu Elen, fel yntau, farw ym 1634, a chladdwyd y ddau ym mynwent Llanwnda.[4]

Cyfeiriadau

  1. w. Gilbert Williams, Hen deuluoedd Llanwnda - II. Lewisiad Plas-yn bont, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.5 (1944), t.43.Ysgrifennwch droednodyn fan hyn
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.519.
  3. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, (Caerdydd, 1986), tt.345-6.
  4. Y Bywgraffiadur Cymreig, loc.cit.