Tafarn Grugan Arms

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:50, 29 Rhagfyr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tafarn ar groesffordd pentref Y Groeslon oedd y Grugan Arms a safai ar dir hen ystad Grugan Wen, gyferbyn â thafarn arall, Tafarn Llanfair Arms.. Cafwyd trwydded, meddir, ym 1862. Rywbryd cyn 1880, cododd adeilad mawr newydd gan Thomas Parry, a ddisgrifiwyd mewn catalog arwerthiant fel "gwesty moethus", gyda deg ystafell, yn cynnwys dwy ystafell ar gyfer cwsmeriaid. Dichon y byddai'r rheiny'n cael eu defnyddio gan bobl megis gwerthwyr masnachol a ddaeth i'r fro ar eu hynt, gan gyrraedd yr orsaf gerllaw. Roedd yno hjefyd seler gyda digon o le i 50 o gasgenni. Dyma oedd ail westy Thomas Parry, gan ei fod eisoes wedi codi Gwesty Bae Caernarfon yn Ninas Dinlle.

Erbyn 1889, rhyw C.E. Jones, Caernarfon, oedd y perchennog a Mr a Mrs John E. Jones yn denantiaid. Erbyn 1900 John a Mary Ellen Parry oedd yn byw yno, ond yn fuan wedyn prynwyd y lle gan Rowland J. Thomas, postfeistr a pherchennog siop ddillad yn y pentref, ac yn defnyddio'r adeilad fel storfa ddefnyddiau a gweithdy gwnïo er i'r hen ddodrefn tafarn ac ati aros yno mor ddiweddar â 1911. Trowyd yr adeilad yn gartref wedyn gyda'r enw Rhianfa a bu'r sawl atrigai yno'n cadw siop deunyddiau addurno am gyfnod; erbyn y 1960au, roedd yr adeilad wedi ei addasu'n fflatiau a tua 1972 fe'i dymchwelwyd er mwyn lledfu'r ffordd fawr.[1]

Cyfeiriadau

{cyfeiriadau}

  1. ‘’Hanes y Groeslon’’, (Caernarfon, 2000), t.64