Gwylmabsant Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:01, 8 Rhagfyr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cynhelid Gwylmabsant Clynnog ar y dydd Llun wedi'r Sulgwyn bob blwyddyn. Hon oedd un o wylmabsantau pwysicaf yn y fro, ac yr oedd iddi enw o fod yn llawn rialtwch, cwffio a meddwi, er yn ei hanfod ei phwrpas oedd clodfori a dathlu bywyd Sant Beuno, sylfaenydd eglwys y plwyf. "Adeg o gynnwrf a rhialtwch ac o ymladd a meddwi", meddai William Hobley am yr Wylmabsant, â'i dafod yn ei foch, "canys heblaw lledrithiau'r anweledig, rhaid cael hefyd gynnwrf cig a gwaed cyn bydd byd neb rhyw ddyn yn un llawn a boddhaol".[1]

Ceir yn llyfr Hobley hanes o rywbryd tua 1770 am Robert Thomas, Y Ffridd ger pentref Nantlle yn cychwyn allan i ymladd dros ei blwyf, sef plwyf Llanllyfni, ar ddydd Llun Sulgwyn :

Dacw Robert Thomas yn cychwyn yn fore o’r Ffridd, “a chlamp o ffon dderwen yn ei law,’’ a’i briod a'i blant yn llefain yn ei wyneb rhag nas gwelent ef yn ddianaf fyth ond hynny. "Tewch â gwirioni, ffyliaid,” ebe yntau, “myn diawl, mi falaf un hanner dwsin ohonynt yn gocos, nes y diango’r hanner dwsin arall.” Yn y modd hynny Robert y pencampwr!

ond ar y ffordd fe glywodd sŵn pregethu a chafodd dröedigaeth, gan droi (yn llythrennol) am adref. Meddai Hobley wedyn:

Nid anturiodd pobl Llanllyfni ymladd heb eu cawr y Llun Sulgwyn hwnnw.[2]

Gyda dylanwad y Methodistiaid yn yr ardal yn cryfhau a threfn gynyddol yn ymledu trwy'r wlad gyda thwf cyflogaeth yn y chwareli, edwinodd bywiogrwydd yr hen wyliau mabsant a'r ffeiriau a gynhelid yn aml yn gysylltiedig â'r gwyliau hynny. Nid cyd-ddigwyddiad efallai yw'r ffaith fod cyfarfodydd darllen ysgolion Sul dosbarth Methodistaidd Clynnog, a sefydlwyd gan Eben Fardd yng nghylch Clynnog Fawr, wedi arfer cael eu cynnal ar ddydd Llun Sulgwyn bob blwyddyn.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.10
  2. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.111
  3. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.12-17